St Canna's Alehouse yn Nhreganna (Llun o dudalen Facebook y dafarn)
Mae cyn-weinidog y Bedyddwyr yn agor meicro-dafarn newydd ar safle hen siop trin gwallt yng Nghaerdydd heddiw.
Mae James Karran wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ei brosiect newydd yn Nhreganna, y St Canna’s Alehouse.
Gobaith y perchennog yw creu canolfan gymdeithasol yn yr ardal sy’n seiliedig ar ei werthoedd fel Cristion ac sy’n ymwrthod â brandiau mawr y diwydiant cwrw a gwirodydd.
Annog pobol i ddiffodd eu ffôn symudol
Un o amcanion mwyaf uchelgeisiol James Karran yw annog ei gwsmeriaid i ddiffodd eu ffôn symudol tra eu bod nhw yn y dafarn.
Fydd dim peiriannau na cherddoriaeth, gan greu’r awyrgylch delfrydol i annog sgwrsio.
Lansiad
Agorodd y dafarn ei drysau ar Ffordd Llandaf am y tro cyntaf am ganol dydd heddiw, ac fe fydd adloniant tan 11 o’r gloch heno.
Bydd yr arlwy yn cynnwys cwrw o’r gasgen, cyrfau lleol a seidr, ynghyd â pizza gan y cwmni lleol, Dusty Knuckle Pizza.
Bydd cerddoriaeth werin o 7 o’r gloch gan ddau gerddor lleol, ynghyd â chyfle i gwrdd â chi’r dafarn, Scout!
Mae mynediad i’r lansiad yn rhad ac am ddim.
Pwy oedd Canna?
Yn ôl Iolo Morganwg, santes a merch i’r Brenin Tudur Mawr a nith i’r Brenin Arthur oedd Canna.
Mae lle i gredu ei bod hi wedi mynd yn lleian i Langan yn Sir Benfro.
Mae ei henw i’w weld yn enw Treganna a Phontcanna yng Nghaerdydd.
Mae hi’n cael ei dathlu ar 25 Hydref.