(Llun: Mankiknd CCA2.0)
Mae Tesco yn wynebu dirwy o £129 miliwn gan y Swyddfa Dwyll Difrifol (SFO)  ond ni fydd yn cael ei erlyn ynglŷn â honiadau o gyflwyno cyfrifon ffug, meddai’r cwmni archfarchnad.

Dywedodd yr archfarchnad bod ei adran, Tesco Stores, wedi dod i Gytundeb Erlyniad Gohiriedig gyda’r Swyddfa Dwyll Difrifol yn dilyn ymchwiliad a barodd ddwy flynedd i gyfrifon ffug yn y cwmni.

Mae’n golygu y bydd Tesco yn osgoi cael ei herlyn cyhyd a’i bod yn “cyflawni gofynion penodol” gan gynnwys talu dirwy sylweddol.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ddarganfod bod Tesco wedi gorliwio ei elw o £263 miliwn – gan gynyddu i £326 miliwn – ar 29 Awst 2014.

Mewn cam anarferol, roedd yr FCA wedi gorfodi’r archfarchnad i dalu iawndal i fuddsoddwyr a oedd wedi prynu cyfrannau ar, neu ar ôl, 29 Awst.

Mae Tesco wedi ymddiheuro am y digwyddiad gan ddweud eu bod wedi’i hymrwymo “i wneud popeth yn ein gallu i adfer ymddiriedaeth yn ein busnes a’n brand.”