Gallai pris torth o fara godi 8.7 ceiniog yn Iwerddon o ganlyniad i Brexit, yn ôl arbenigwyr yn y diwydiant.

Daw 80% o’r blawd sy’n cael ei ddefnyddio i wneud bara Gwyddelig o wledydd Prydain, ac fe allai’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd olygu bod tariff ychwanegol yn cael ei roi ar fara heb fod cytundeb yn ei le.

Pe bai cynhyrchwyr Gwyddelig yn troi at gwmnïau Prydeinig sy’n gweithredu o fewn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn osgoi rhwystrau, yna mae’n debygol y byddai swyddi’n cael eu colli, yn ôl Cymdeithas Felinwyr Prydain ac Iwerddon.

Tariff

Dywedodd y cyfarwyddwr Alex Waugh: “Mae’n eithaf dibynnol ar chwyddiant, gan gymryd bod y blawd yn parhau i ddod o’r un ffynhonnell ag y mae ar hyn o bryd.

“Unwaith ry’ch chi’n cyflwyno tariff mae popeth yn newid, felly y tebygolrwydd yw y byddai’r blawd sy’n dod o’r DU ar hyn o bryd yn dod o rywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd lle na fyddai tariff.”

Canlyniad hynny, meddai, fyddai colli swyddi yng ngwledydd Prydain.

“Yr hyn ry’n ni’n ei weld yw gwleidyddion yn ceisio ymateb i wahanol bwysau mewn llefydd gwahanol.

“O safbwynt ein busnes, mae cynnal y masnach heb dariff rhwng y DU ac Iwerddon yn hanfodol.”