Mae cwmni Tinopolis o Lanelli ar werth am tua £300 miliwn, yn ôl erthygl heddiw ym mhapur newydd The Guardian.

Mae’r papur hwwnnw’n adrodd fod y cwmni, sydd a’i bencadlys yn Llanelli, wedi rhyddhau memorandwm i nifer o berchnogion cwmnïoedd cyfryngau a chwmnïoedd ecwiti preifat sydd yn dweud eu bod yn ystyried nifer o opsiynau gan gynnwys gwerthu’r cwmni.

Yn ôl y Guardian mae gan y cwmni drosiant o dros £25m y flwyddyn, ac mae’n bosib gall y cwmni cael ei werthu am swm hyd at £300m.

Y gred yw bydd rownd gyntaf o fidio am y cwmni yn dechrau yn syth – gydag ITV yn cael ei ystyried yn brynwr posib.

Yn 2014 bu Tinopolis yn trafod â MSD capital ac Entertainment One ynglŷn â’r posibiliad o werthu’r cwmni.

Tinopolis a’i is-gwmnïau sy’n gyfrifol am gynhyrchu rhaglenni Question Time ar y BBC, An Idiot Abroad i Sky a Heno ar S4C.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Tinopolis am ymateb.