Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Mae cynllun i gefnogi busnesau bach yng Nghymru ac Iwerddon wedi cael ei gymeradwyo ar ôl cael cyllid gwerth €2.3m gan yr Undeb Ewropeaidd.

Fel rhan o brosiect BUCANIER bydd tua 120 o fusnesau o Gymru ac Iwerddon yn derbyn cefnogaeth gan brifysgolion i ddatblygu a lansio syniadau busnes newydd.

Dros y tair blynedd nesaf bydd y prosiect yn bennaf yn cynorthwyo’r prif sectorau sy’n tyfu yng Nghymru ac Iwerddon gan gynnwys sectorau bwyd a diod, gwyddorau bywyd ac ynni adnewyddadwy.

Mae BUCANIER yn cael ei ariannu trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru yr Undeb Ewropeaidd, ac wedi ei arwain gan Gyngor Sir Penfro mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Prifysgol Abertawe a chyfres o asiantaethau Gwyddelig.

“Mae’r cyllid hwn yn agor drysau i fusnesau bach. Mae’n sicrhau eu bod yn gallu elwa ar yr adnoddau a’r arbenigeddau gwahanol sydd ar gael yng Nghymru ac Iwerddon,” Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford.