Llun: South Wales Evening Post
Mae gwefan newyddion y South Wales Evening Post yn uno heddiw â gwefan newyddion WalesOnline.

Bydd newyddiadurwyr y wefan yn cyhoeddi eu straeon o hyn allan ar WalesOnline sy’n eiddo i’r cwmni Trinity Mirror, a bydd adran arbennig yn cael ei neilltuo i straeon o Abertawe.

Dydy’r newid ddim yn effeithio ar bapur newydd yr Evening Post.

Yn ôl golygydd y South Wales Evening Post, Jonathan Roberts, gobaith hyn yw datblygu ar amrywiaeth y cynnwys gan estyn at fwy o ddarllenwyr wrth i wefan WalesOnline weld cynnydd yn niferoedd eu darllenwyr bob blwyddyn.

Dywedodd ei bod yn “amser cyffrous” i’w darllenwyr, partneriaid masnachol a’u gohebwyr.