Llun: PA
Mae gwerth y bunt wedi gostwng i’w lefel isaf ers wyth wythnos wrth i fuddsoddwyr bryderu am ail refferendwm posib yn yr Alban a thanio Erthygl 50.

Roedd y bunt wedi gostwng 0.6% yn erbyn y ddoler i 1.214, ei lefel isaf ers canol mis Ionawr.

Mae’r bunt yn dioddef yn sgil cyhoeddiad Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon ddoe ei bod yn bwriadu cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Fe awgrymodd Downing Street hefyd y byddai Theresa May yn tanio Erthygl 50 ar ddiwedd mis Mawrth.