Rheilffordd Ffestiniog (Llun: Facebook Rheilffordd Ffestiniog)
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi y bydd y rheilffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Chaernarfon sy’n teithio drwy Borthmadog yn elwa o £464,000 o’u buddsoddiad diweddaraf.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i greu cyfleoedd hyfforddiant newydd i 20 o bobol ym maes treftadaeth.

Daw hyn wrth i’r Loteri Genedlaethol gyhoeddi buddsoddi o £10.1 miliwn i 18 prosiect treftadaeth gwahanol ar draws y Deyrnas Unedig.

‘Datblygu sgiliau’

Mae disgwyl i’r cynllun ddechrau’r flwyddyn nesaf gyda phwyslais ar gynnig cyfleoedd hyfforddiant i ferched, pobol o dan 25 oed a phobol o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

“Mae buddsoddi mewn talent treftadaeth newydd yn sicrhau ein bod yn adeiladu sector mwy cynaliadwy, yn diogelu ein hanes ac yn parhau i ddenu ymwelwyr o bob cwr o’r byd,” meddai Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Prydain, Tracey Crouch.

“Rwyf wrth fy modd yn gweld mwy o arian sy’n cael ei godi gan y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi a datblygu sgiliau pobol gan gyflawni ein haddewidion yn ein Papur Gwyn ar ddiwylliant,” ychwanegodd.