Mae Citywing wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr
Daeth cadarnhad gan Lywodraeth Cymru neithiwr y bydd Eastern Airways yn rhedeg teithiau awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

Citywing oedd yn gyfrifol am y teithiau, ond fe aethon nhw i ddwylo’r gweinyddwyr ar ôl i Van Air golli’r hawl i hedfan.

Daeth cadarnhad o’r newyddion am Eastern Airways gan Weinidog yr Economi, Ken Skates, sy’n gyfrifol am weinyddu’r £1.2 miliwn sy’n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.

Cyn y cyhoeddiad, roedd yr holl deithiau rhwng y de a’r gogledd wedi cael eu gohirio, ond fe fydd pawb sydd wedi prynu tocyn yn cael teithio yn dilyn y newyddion diweddaraf.

Mae Eastern Airways eisoes yn gyfrifol am deithiau o Gaerdydd i Aberdeen, Newcastle, Stornoway a Wick John O’Groats, yn ogystal â theithiau i Bergen a Stavanger yn Norwy.

Dywedodd Ken Skates ei fod yn “ddiolchgar” fod y cwmni newydd wedi camu i’r adwy mor fuan.

Mae Citywing wedi ymddiheuro am yr anawsterau sydd wedi cael eu hachosi i deithwyr yn ddiweddar.