Safle tirlenwi (Cezary P CCA4.0)
Mae angen mwy o fanylion am fil newydd Llywodraeth Cymru ar godi treth ar wastraff anghyfreithlon, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Roedd hi’n siom nad oes rhai agweddau wedi’u cynnwys yn y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi meddai’r Pwyllgor Amgylchedd, sy’n pryderu dros ddiffyg eglurder y ddeddfwriaeth newydd.

Maen nhw’n poeni y gallai cronfa gymunedol fod dan fygythiad hefyd am nad yw wedi ei chynnwys yn rhan ffurfiol o’r mesur.

“Rydym wedi annog y Llywodraeth i gynnwys dyletswydd statudol yn y Bil i sefydlu cynllun cymunedol,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Simon Thomas.

Fe ddywedodd hefyd fod y Llywodraeth wedi colli cyfle i arloesi, trwy gadw at drefniadau deddfau o’r blaen.

Galw am sicrwydd

Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw am sicrwydd i fusnesau am pryd y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn effeithio ar eu trethi ac yn poeni y gallai busnesau gael hyd at 20 mlynedd i dalu treth ar warediadau heb eu hawdurdodi.

Mae’r mesur yn mynd drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd. Dyma’r ail dreth i gael ei datganoli i Gymru a bydd yn dod i rym fis Ebrill 2018 ymlaen.

Ar hyn o bryd, mae’r dreth tirlenwi yn cyfrannu tua £35 miliwn at gyllideb Llywodraeth Cymru, ond mae disgwyl i hyn ostwng i tua £23 miliwn erbyn 2021/22 wrth gyflawni’r nod o anfon llai a llai o ddeunydd i safleoedd tirlenwi.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi [Cymru] a byddwn yn ymateb maes o law,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi bod yn glir am ein hymrwymiad i gyflwyno Cynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi pan gaiff y dreth ei datganoli i Gymru.

“Rydym wedi ymgynghori’n helaeth â rhanddeiliaid am ddatblygiad y cynllun ac rydym yn parhau i wneud hynny. “Rydym yn ystyried yr adborth rydym wedi’i gael ynghyd â’r dystiolaeth gan y Pwyllgor Cyllid.”