Adeilad Llywodraeth Cymru (llun parth cyhoeddus)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhuddo o roi bron chwarter miliwn i helpu cwmni papurau newydd proffidiol dorri swyddi mewn rhannau eraill o wledydd Prydain.

Ac, yn ôl papur newydd arbenigol, mae mwy fyth o swyddi wedi eu colli ers i’r Llywodraeth helpu cwmni Newsquest i sefydlu canolfan yng Nghasnewydd, gan ddweud y bydd honno hefyd yn cau ym mis Ebrill.

Yn ôl papur y Press Gazette, mae’n gamddefnydd cywilyddus o arian cyhoeddus.

Yr honiadau

Yr honiad yw fod y Llywodraeth wedi rhoi £246,000 i helpu cwmni Newsquest sefydlu canolfan isolygu – hyb sybio – yng Nghasnewydd gan symud swyddi yno o bapurau rhanbarthol ar draws gwledydd Prydain.

Yn y flwyddyn honno, meddai’r cylchgrawn, roedd y cwmni wedi gwneud elw o £69 miliwn ar drosiant o ddim ond £279 miliwn.

Mae’r Press Gazette hefyd yn honni bod 70 o swyddi wedi eu colli yn y cwmni ers i’r taliad gael ei wneud ac ynghynt yr wythnos yma fe ddaeth y newydd y bydd yr ‘hyb sybio’ yng Nghasnewydd yn cau gan golli 14 o swyddi.

‘Helpu cwmni i dorri swyddi’

Yn ôl colofnydd y cylchgrawn Dominic Sandbrook, fe allai’r arian fod wedi helpu mentrau bach i sefydlu gwefannau lleol iawn yng Nghymru.

“Yn lle hynny,” meddai, “fe aeth Llywodraeth Cymru ati’n dawel i ddefnyddio’r arian i helpu un o gewri’r wasg ranbarthol i dorri swyddi newyddiadurol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a’i helpu i ychwanegu at ei elw sylweddol.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Gwnaethom roi £245,808 i Newsquest yn 2015 ar gyfer creu 50 o swyddi newydd a diogelu 15 o swyddi presennol ar ei safle ym Maesglas, Casnewydd. Roedd y cyllid hwn yn amodol ar sicrhau bod y swyddi hyn yn parhau hyd fis Mai 2020. Llwyddodd y cwmni i fynd lawer ymhellach na’i darged gwreiddiol o ran creu swyddi newydd.

“Siomedig iawn oedd clywed bod Newsquest wedi penderfynu cynnal sawl cylch diswyddo ar y safle yn ystod 2016 sydd wedi lleihau’n sylweddol nifer y staff a gaiff eu cyflogi yno. Gwnaeth y grŵp barhau i gyflogi nifer uchel o staff ar y safle ar gyfer gwasanaethau golygyddol eraill cysylltiedig. Rydym yn ymwybodol o’r newyddion diweddaraf hyn ynghylch diswyddo rhagor o bobl. O’r herwydd rydym wedi gofyn am gadarnhad gan y cwmni a byddwn yn adolygu’r lefelau staffio ar y safle o’i gymharu ag amodau eu cyllid maes o law.”