Ailgylchu ar waith (llun Cyngor Gwynedd)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £6.5 miliwn i annog pobol i ailgylchu ac ailddefnyddio mwy.

Bwriad y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Economi Cylchol yw helpu busnesau bach  a chanolig i symud tuag at ‘Economi Cylchol’, sy’n golygu ailgylchu adnoddau yn hytrach na’u llosgi neu eu taflu i safleoedd tirlenwi.

Yn ôl astudiaeth gan y mudiad Wrap a Sefydliad Ellen MacArthur, sefydliadau sy’n ceisio lleihau gwastraff, fe allai symud at ‘economi cylchol’ arbed hyd at £2 biliwn i economi Cymru a chreu 30,000 o swyddi.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gosod targed i ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2025 a 100% erbyn 2050.

‘Pedwerydd yn Ewrop’

“Mae’r gronfa yn dangos ein hymrwymiad i symud tuag at Economi Cylchol,” meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Fe fydd yn helpu busnesau i arbed arian drwy fod yn fwy effeithlon a chryf. Fe fydd y ffordd hon o weithio yn arwain at fanteision amgylcheddol niferus gan gynnwys llai o wastraff a llai o allyriadau CO2.”

Pe bai Cymru’n aelod annibynnol o’r Undeb Ewropeaidd fe fyddai’n bedwerydd yn y rhestr ailgylchu, meddai’r Llywodraeth.