Mae Barclays wedi cyhoeddi eu bod nhw’n symud eu swyddfa morgeisi allan o Gymru, sy’n golygu y bydd rhai staff yn colli eu swyddi.

Mae trafodaethau ar y gweill â 180 o staff yn dilyn y cyhoeddiad y bydd y swyddfa yn Llanisien yng Nghaerdydd yn cau y flwyddyn nesaf.

Bydd 144 o swyddi’n symud i Leeds a Lerpwl, a bydd 60 o swyddi’n cael eu colli’n gyfan gwbwl.

Bydd swyddi eraill yn cael eu cynnig i’r staff yng Nghaerdydd mewn adrannau eraill.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Barclays fod eu helw blynyddol wedi treblu i £3.2 biliwn.

Dywedodd llefarydd fod y cwmni wedi bod yn “agored a thryloyw” drwy gydol y broses.