Mae menywod o Gymru yn teithio i Lundain heddiw er mwyn protestio yn erbyn newidiadau i’r cynllun pensiwn gwladol.

Fe fydd pobol o Wrecsam, Rhyl, Ynys Môn, Abertawe a Chaerdydd yn ymuno â phrotest Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn Gwladol (WASPI), sydd yn cyd-daro a Diwrnod Rhyngwladol Menywod.

Mae WASPI yn dadlau bod newidiadau i’r cynllun pensiwn gwladol ers i oedran pensiwn gwladol menywod cael ei godi i 65 yn 1995, wedi eu gweithredu yn rhy gyflym ac wedi difetha cynlluniau ymddeol nifer o fenywod.

Fe fydd y protestwyr yn annog Aelodau Seneddol ac Arglwyddi i arwyddo dogfen sy’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnig cymorth dros dro i’r menywod sydd wedi eu heffeithio.

“Rydym yn cydsefyll a’n dymuno’r gorau i bobol sy’n teithio o Gymru heddiw ac rydym yn ennyn ar Aelodau Seneddol Cymru i gefnogi’r ymgyrch i wrthdroi’r sefyllfa anghyfiawn yma sy’n wynebu menywod cafodd eu geni yn 1950,” meddai Ysgrifennydd Rhanbarthol UNISON Cymru, Margaret Thomas.