Maes Awyr Heathrow
Bydd modd i gwmnïau hedfan sy’n awyddus i gynnig gwasanaeth rhwng meysydd awyr Cymru a Heathrow wneud cais am arian o gronfa £10 miliwn yn dilyn cytundeb heddiw.

Nod y cytundeb, sydd wedi ei arwyddo yng Nghaerdydd gan Lywodraeth Cymru a chwmni Heathrow Airport Cyf, yw dod o hyd i gyfleoedd busnes, wrth i’r maes awyr yn Llundain baratoi i adeiladu trydedd lain lanio.

Mae’r cytundeb yn cadarnhau bod cwmnïau awyrennau sy’n dymuno hedfan o Gymru i Heathrow yn medru ymgeisio am y swm cyfalaf cychwynnol fydd yn dod o gronfa datblygu llwybrau’r maes awyr.

Cynorthwyo busnesau Cymreig

Bydd Uwchgynhadledd Fusnes Heathrow Cymru yn cael ei chynnal ar Orffennaf 5 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac yn rhoi’r cyfle i fusnesau Cymru ennill cytundebau newydd gyda chyflenwyr y maes awyr.

“Yn bendant, hoffwn weld canran llawer uwch o arian yn cael ei gwario yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth o fewn ei gallu i roi cymorth i gwmnïau o Gymru gyflwyno cynigion ac ennill rhagor o waith yn Heathrow,” dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Trydedd lain lanio Heathrow fydd y prosiect seilwaith mwyaf yn Ewrop sydd wedi’i ariannu’n breifat, a’r gobaith yw y bydd y cytundeb â Chymru yn arwain at  greu 8,400 o swyddi a £6.2biliwn o dwf economaidd.