Philip Green
Mae cyn-berchennog BHS wedi ymrwymo i dalu £363 miliwn i gynlluniau pensiwn y cwmni wedi iddo fynd i’r wal y llynedd.

Roedd Syr Philip Green wedi’i feirniadu’n hallt am adael  diffyg o £571 miliwn yng nghronfa bensiwn y cwmni pan gafodd ei werthu i gwmni Dominic Chappell am £1 yn 2015.

Ond, mae’n dweud fod y swm y mae’n gynnig heddiw yn “gwneud yn iawn am hynny” ac yn ddewis gwell na gadael i’r cynlluniau fynd i feddiant y Gronfa Diogelwch Pensiynau (PPF).

‘Blwyddyn o ansicrwydd’

Fe aeth BHS i’r wal ym mis Ebrill y llynedd gyda 11,000 yn colli eu gwaith a thua 22,000 yn wynebu colledion gyda chynllun pensiwn y cwmni, ac fe arweiniodd hynny at ymchwiliad seneddol.

“Rydw i heddiw wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol o hyd at £363 miliwn i ganiatáu ymddiriedolwyr cynllun pensiwn BHS i gael canlyniad llawer gwell nag i’r cynlluniau fynd i Gronfa Diogelwch Pensiynau, sef bwriad cychwynnol,” meddai Philip Green.

“Unwaith eto hoffwn ymddiheuro i bensiynwyr BHS am y flwyddyn ddiwethaf o ansicrwydd, nad oedd yn fwriad pan gafodd y busnes ei werthu ym mis Mawrth 2015,” ychwanegodd.