Maes Awyr Caerdydd (llun: CC2.0/M J Richardson)
Mae cwmni hedfan o’r Weriniaeth Siec wedi cael ei wahardd rhag teithio rhwng Ynys Môn a Chaerdydd am resymau diogelwch.

Mae’r awdurdod hedfan sifil (CAA) wedi cadarnhau fod y cwmni Van Air wedi cael eu gwahardd rhag hedfan ar draws y Deyrnas Unedig gyfan ar hyn o bryd.

Daw’r gwaharddiad yn dilyn achos ar Chwefror 23 pan na lwyddodd un o’u hawyrennau i lanio yng Ngogledd Iwerddon ynghanol storm Doris, ac mae adroddiadau iddi ddychwelyd i Ynys Manaw.

Cwmni o Ddenmarc

Mae Van Air wedi bod yn cynnal y teithiau rhwng y Fali a Maes Awyr Caerdydd gyda’r cwmni Citywing yn gyfrifol am archebu’r teithiau a’r llinell hedfan.

Ond, yn ôl y CAA, cwmni o Ddenmarc, North Flying Airport Service, sy’n cynnal y gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn ar hyn o bryd.

“Mae Awdurdod Hedfan Sifil y Deyrnas Unedig wedi gwahardd hawl y cwmni sydd wedi’i gofrestru gyda’r Weriniaeth Siec, Van Air, rhag hedfan yn y Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd ar ran y CAA.

“Mae’r digwyddiad yn cael ei archwilio gan awdurdodau hedfan sifil y Weriniaeth Siec,” ychwanegodd.