Llun cyhoeddusrwydd oddi ar wefan cruisenation.com
Fe fydd cwmni ar-lein sydd wedi creu argraff yn y diwydiant mordeithiau, yn agor stiwdio deledu yn Abertawe yn yr haf.

Cafodd y newyddion am fenter ddiweddaraf Cruise Nation, cwmni mordeithiau, ei gyhoeddi gan sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Phil Evans.

Cafodd y cwmni ei sefydlu wyth mlynedd yn ôl, ac mae’n cyflogi mwy na 50 o weithwyr llawn amser erbyn hyn. Y gobaith yw cyflogi 30 yn rhagor i weithio i’r cwmni yn ystod y deunaw mis nesaf.

Mewn datganiad, dywedodd Phil Evans: “Gyda’n stiwdio deledu newydd sbon a chanolfan siopa newydd i’r cyhoedd, byddwn ni’n cydweithio â’r dalent leol yn y cyfryngau yng Nghymru, gan obeithio mynd yn fyd-eang ar y we a hefyd ar deledu rhwydwaith.”

Gwyliau i’r teulu cyfan

Ychwanegodd Rheolwr Masnachol Cruise Nation, Andrea Kendal: “Mae hwn yn newyddion cyffrous iawn i Abertawe ac i Gymru gyfan.

“Bydd cynnwys teledu newydd yn cael ei greu bob mis ac fe fydd yn helpu i addysgu pobol am fanteision mordeithiau.

“Mae stigma’n perthyn o hyd i fordeithiau eu bod nhw’n darparu ar gyfer yr henoed a phobol sydd wedi ymddeol yn unig ond mewn gwirionedd, mae miliynau o bobol o amgylch y byd yn mynd â’r teulu cyfan gyda nhw oherwydd eu bod nhw’n darparu ar gyfer pob diwylliant.”

Ychwanegodd y byddai’r stiwdio deledu newydd yn “newid byd” i’r cwmni.

Hybu’r ddinas

Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi croesawu’r fenter newydd fel ffordd o hybu’r ddinas ar draws y byd.

“Mae’r Cyngor wedi bod yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill i ystyried ffyrdd o hybu’r ddinas a’r rhanbarth fel cyrchfan ar gyfer mordeithiau o ystyried ehangiad cyflym y sector, yn enwedig yn y farchnad Ewropeaidd,” meddai Phil Roberts, prif weithredwr y cyngor.

“Rydym yn croesawu’r potensial sydd gennym yma o godi proffil y diwydiant mordeithiau yn gyffredinol a hefyd y swyddi ychwanegol sy’n dod i’r ddinas drwy Cruise Nation.”

Dyw trefnu teithiau ddim yn gysyniad estron i deulu Phil Roberts, sy’n nai i sylfaenydd cwmni teithiau awyr yn yr Unol Daleithiau, a gafodd ei sefydlu er mwyn cynnig teithiau awyr rhad.

Bellach, mae ei gwmni wedi dechrau ennill gwobrau, ar ôl i Cruise Nation ddod i’r brig yng nghategori’r ‘Asiantaeth Deithio Ar-lein Orau’ a chategori’r ‘Gwasanaeth Gorau ar y We’ yn y Wave Awards yn Kensington yn Llundain yn ddiweddar.

Cafodd y cwmni gryn ganmoliaeth hefyd gan arbenigwyr yn y diwydiant yng nghategori Hoff Deithiau’r Teithwyr.

Gwisgoedd

Wrth i gwmni Cruise Nation ddatblygu, daeth cadarnhad bod y cwmni wedi dod i gytundeb â chwmni lleol First Corporate o Bort Talbot i greu gwisgoedd newydd ar gyfer y staff sydd wedi’u lleoli ym mhencadlys Cruise Nation yn Llansamlet ar gyrion Abertawe.

Llysgennad brand swyddogol y cwmni yw Miss Cymru, Ffion Miles o Gaerfyrddin.

“Mae’r wisg yn lliwgar braf ac yn gyfforddus, ac mae’r ffrog a’r siaced wedi’u teilwra i ffitio – mae’r staff mor lwcus o gael gwisgo’r rhain bob dydd gan eu bod nhw mor drwsiadus ac mae’n fy atgoffa o fod wedi gwisgo yn Miss World yn China eleni,” meddai.

Mae disgwyl cadarnhad yn fuan ynghylch pwy fydd llysgennad staff gwrywaidd y cwmni.