Mae Grwp Bancio Lloyds wedi cyhoeddi bod ei elw blynyddol yn ystod 2016 wedi mwy na dyblu, gan daro £4.24 biliwn.

Yn ol y benthycwr, fe gododd ei elw o 1.64 biliwn yn 2015 oherwydd na fu’n rhaid iddo dalu allan cymaint o iawndal am gamwerthu yswiriant PPI y llynedd.

Mae perfformiad y grwp y llynedd yn gysylltiedig â llewyrch cyffredinol economi gwledydd Prydain, meddai’r banc – hyd yn oed ar ôl refferendwm Brexit.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn berchen ar lai na 5% o’r banc erbyn hyn.