Llun: PA
Mae banc HSBC wedi cyhoeddi bod ei elw wedi gostwng 62% ar ôl blwyddyn o “ddigwyddiadau economaidd a gwleidyddol annisgwyl.”

Dywedodd y banc, sydd a’i bencadlys yn Llundain, bod ei elw ar gyfer 2016 wedi gostwng i £2 biliwn o £10.8 biliwn yn 2015.

Roedd refeniw blynyddol wedi gostwng 18.5% i £38.6 biliwn ac yn y chwarter diweddaraf roedd ei golledion wedi cynyddu i £3.5 biliwn o £1biliwn yn y flwyddyn flaenorol.

Dywed y banc bod yr amodau wedi bod yn heriol yn sgil y bleidlais Brexit ac ethol Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.