Yr offer gwyliadwraeth sy'n cael ei gynhyrchu gan Qioptiq yn Llanelwy Llun: Qioptiq
Mae cwmni o Lanelwy yn Sir Ddinbych wedi derbyn cytundeb gwerth £82 miliwn i ddarparu offer gwyliadwriaeth a thargedu i luoedd arfog Prydain.
Bydd Qioptiq, sydd yn cyflogi 560 ar ddau safle yn Llanelwy a Bodelwyddan, yn cynhyrchu offer gweld yn y tywyllwch ac eitemau eraill fel rhan o’r cytundeb chwe blynedd.
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyfuno 20 gwahanol gytundeb yn un a’r gobaith yw y bydd yn arwain at arbedion gwerth £47 miliwn i’r trethdalwr dros y chwe blynedd nesaf.
Bydd y cytundeb yn arwain at wyth swydd newydd yn cael eu creu o fewn y cwmni.
Daw’r newyddion yn sgil cyhoeddiad bod cwmni arall, Defence Electronics and Components Agency Sealand (Deca) yn Sir y Fflint, am fod yn hwb rhyngwladol ar gyfer trwsio awyrennau F-35.
“Mae’r ymrwymiad yma i economi Cymru yn dangos ein bod yn cynnig y gweithlu crefftus a’r cyfleusterau sydd angen ar fuddsoddwyr.
“Yn amlwg mae hefyd yn newyddion arbennig o ran cyflogaeth yn yr ardal,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.