Mark Drakeford (Llun teledu'r Senedd)
Mae arweinydd busnes wedi galw am chwarae teg i fusnesau yn nhrefi gwledig Cymru wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi cynllun gwerth £10 miliwn i leihau baich y dreth fusnes.

Fe gafodd y cynllun ei gyhoeddi heddiw gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford – er mwyn helpu busnesau stryd fawr sy’n wynebu cynnydd yn eu treth a mwy a mwy o gystadleuaeth gan fusnesa ar-lein a chanolfannau ar gyrion trefi.

Ond mae Ysgrifennydd Siambr Fasnach Aberystwyth wedi galw ar y Llywodraeth i wneud yn siŵr fod cyfran deg yn mynd i fusnesau mewn trefi gwledig, lle mae’r boblogaeth yn llai.

Cymorth i 15,000

Fe fydd y cynllun yn cefnogi tua 15,000 o fusnesau gan gynnwys busnesau fydd yn cael eu heffeithio gan ailbrisiad asiantaeth annibynnol y Swyddfa Brisio.

Mae’n bosib gall rhai cwmnïau weld gostyngiad o hyd at £1,500 ar eu biliau os ydyn nhw’n talu £50,000 neu lai’r flwyddyn am eu hadeiladau.

Dyma’r ail dro i Lywodraeth Cymru roi cymorth

“Mae’r cynllun newydd hwn yn ychwanegol at y cynllun gwerth £10m, a fydd hefyd ar gael o Ebrill 1 ymlaen a’r toriad o £100m mewn trethi ar gyfer busnesau bach yng Nghymru. Bydd yn darparu cymorth hollbwysig i fusnesau strydoedd mawr ledled Cymru,” meddai Mark Drakeford.

Trefi Cefn Gwlad

Mae angen i’r cynllun dargedu’r ardaloedd lle mae’r angen mwya’, yn ôl Ysgrifennydd Siambr Masnach Aberystwyth, Eirian Reynolds

“Mae’r baich ar fusnesau yn nhrefi canolig cefn gwlad yn uchel oherwydd nad oes gyda ni ddigon o boblogaeth i gefnogi ein siopau ni, yn annhebyg i ddinasoedd mawr o amgylch yr M4.

“R’yn ni’n gobeithio y bydd cynllun y Llywodraeth yn cynorthwyo ein trefi cefn gwlad ni er enghraifft Aberystwyth ac Aberteifi, ac y bydd buddiannau’r cynllun yn cael eu rhannu  mewn ffordd gyfartal.”

Straen ar awdurdodau lleol

Er bod croeso cyffredinol i’r cyhoeddiad, mae yna feirniadaeth hefyd gyda’r Ceidwadwyr yn dweud nad yw’r cynllun yn ddigon clir ac y bydd straen ar awdurdodau lleol i weithredu’r cynllun.

“Bydd angen i Llywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth clir er mwyn sicrhau bod busnesau yn derbyn y cymorth sydd angen arnyn nhw yn y byr dymor,” meddai eu llefarydd, Nick Ramsay.

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi calw am adolygiad llawn o’r holl gynllun treth fusnes gan ddweud ei fod yn llai teg yng Nghymru o gymharu â gwledydd eraill Prydain.