Un o siopau Iceland - y cwmni gorau ar-lein (Adcro CCA 4.0)
Y cwmni archfarchnadoedd o Lannau Dyfrdwy, Iceland, yw’r gorau trwy wledydd Prydain am ei wasanaeth ar-lein, yn ôl arolwg y cylchgrawn defnyddwyr WEhich?

Fe gafodd y cwmni, a ddechreuodd gyda stondin fefus ar Fwlch yr Oernant ger Llangollen, sgôr o 77% o 7,000 o bleidleiswyr yn yr arolwg.

O ran gwasanaeth mewn siopau, y ffefrynnau oedd dwy o’r archfarchnadoedd mwy ‘safonol’ a dwy o’r rhai mwya’ rhad.

Unwaith eto, siopau Waitrose oedd ar y brig, gyda Marks and Spencer yn ail ac Aldi a Lidl yn gyfartal yn y trydydd lle.

Yr arolwg

Roedd yr arolwg am siopa ar-lein wedi ei seilio ar dair elfen – gwerth am arian, cynnig nwyddau eraill am ran sydd heb fod ar gael a’r gwasanaeth gan y gyrwyr sy’n dosbarthu’r nwyddau.

Roedd yr arolwg yn y siopau wedi’i seilio ar bedwar peth – golwg y siop, hwylustod dod o hyd i bethau, ansawdd bwydydd ffresh a’r tebygrwydd y byddech chi’n argymell y siop i ffrind.

Chweched oedd Iceland – sy’n arbenigo mewn bwydydd rhew – yn y categori hwnnw, gyda sgôr o 69%.