HSBC - un o'r cwmniau sydd wedi bod yn cau canghennau
Fe fydd Plaid Cymru yn galw am sefydlu “Banc Pobol Cymru” yn y Cynulliad heddiw – ymateb i’r holl fanciau lleol sydd wedi eu cau yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Mae’r Blaid wedi galw dadl ar y pwnc ac fe fyddan nhw’n galw ar y Llywodraeth i ddiogelu banciau lleol trwy ystyried banc cyhoeddus Cymreig.

Mae llawer o’n cymunedau wedi colli eu hunig fanc neu gymdeithas adeiladu,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi, Adam Price. “Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i wrthdroi’r duedd hon. Yn ein barn ni, credwn mai dyma’r amser i sefydlu Banc y Bobl – banc gwirioneddol gymunedol,”

“Banciau’r Bobol”

“Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i edrych ar y camau angenrheidiol i greu rhwydwaith o Fanciau’r Bobol,” meddai’r llefarydd Materion Gwledig, Simon Thomas.

“Byddai banc cyhoeddus Cymreig yn cydweithredu, nid yn cystadlu, gyda darparwyr ariannol eraill, gan gynnwys y Banc Datblygu Cymreig.”

Mae sefydlu Banc Datblygu yn un o’r addewidion a gafodd Plaid Cymru gan y Llywodraeth wedi’r etholiad diwetha’.

Banciau’n cau

Daw’r drafodaeth yn sgil penderfyniadau rhai o’r banciau mwya’ i gau canghennau yng Nghymru.

  • Cyhoeddodd HSBC y byddai naw cangen yn cael eu cau yng Nghymru flwyddyn yma yng Nghaerdydd, Maesteg, Rhydaman, Abergwaun, Arberth, Caergybi, Treffynnon, Llanrwst a Threfyclo.
  • Cyhoeddodd NatWest ddiwedd mis Rhagfyr byddai naw cangen yng Ngogledd Cymru yn cael ei chau eleni ym Mhrestatyn, Rhuthun, Conwy, Treffynnon, Porthmadog, Caernarfon, Porthaethwy, Amlwch a Chaergybi.