(Llun: Rui Vieira/PA)
Mae prisiau tai yng Nghymru wedi codi tua 5% yng Nghymru, yn ôl adroddiad swyddogol.

Roedd prisiau tai yng Nghymru ar gyfartaledd yn £148,000 ym mis Rhagfyr 2016, sydd yn gynnydd o 4.7% o gymharu â Rhagfyr 2015, yn ôl adroddiad y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ynghyd â chyrff eraill.

Ar gyfartaledd roedd pris tai yng ngweddill gwledydd Prydain yn £220,000 ar ddiwedd 2016, £15,000 yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a chynnydd o 7.2%.

Lloegr wnaeth gyfrannu fwyaf at y ffigwr Prydeinig gyda chynnydd o 7.7% yn ystod y 12 mis hyd at Ragfyr sy’n golygu mai £236,000 yw’r pris cyfartalog am dŷ.

Yn yr Alban bu cynnydd o 3.5% – mae pris tŷ yno bellach yn £142,000 ar gyfartaledd, ac yng Ngogledd Iwerddon cododd pris tŷ ar gyfartaledd i £125,000 sydd yn gynnydd o 5.7%.

Mae pobl sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf ym Mhrydain yn wynebu talu 7% yn fwy nag y byddan nhw wedi gorfod talu y llyendd ac, yn ôl yr ystadegau, £184,973 yw’r pris ar gyfartaledd ar gyfer tŷ cyntaf yng ngwledydd Prydain.