Ken Skates yn gobeithio lledu'r cynllun (Llun Cynulliad)
Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £1 miliwm mewn meithrinfa i fusnesau bach, gan obeithio y bydd hynny’n batrwm trwy Gymru ar gyfer y dyfodol.

Fe gyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, y bydd yr arian yn mynd at ganolfan – ‘Hyb’ – yn Wrecsam, gyda’r bwriad o helpu 100 o fusnesau a chreu 260 o swyddi.

Y syniad yw fod busnesau bach yn cael cymorth ymarferol a chyfle i rannu syniadau a chefnogi ei gilydd.

Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiant, mae Ken Skates wedi awgrymu y gallai fod yn rhan o’i strategaeth economaidd ehangach.

Mae’r feithrinfa’n cael ei sefydlu gyda chefnogaeth consortiwm Busnes Cymru a’r corff datblygu busnesau ICE Cymru a’r gobaith yw denu £1 miliwn arall o fuddsoddiadau preifat.

Meddai Ken Skates

“Mae arloesi ac entrepreneuriaeth yn sbardunau pwysig i’r economi a dw i am greu’r amgylchedd gorau ar gyfer entrepreneuriaid ledled y wlad,” meddai Ken Skates.

“Mi fydda’ i’n defnyddio’r peilot i fy helpu i benderfynu ar fy mlaenoriaethau economaidd yn y dyfodol.

“Er mwyn sicrhau eu llwyddiant, mae’n bwysig darparu lle, cymuned a chefnogaeth i gyw entrepreneuriaid a dw i’n awyddus i ddatblygu’r seilwaith sydd gynnon ni ledled Cymru ac ychwanegu ato fo.”