Fe fydd un o siopau Waitrose yng Nghymru yn cau, wrth i’r cwmni ddiswyddo mwy na 700 0 bobol a chau pump archfarchnad.

Fe fydd y siop fwyd ar Heol y Frenhines yng Nghaerdydd yn cau, ynghyd â siopau yn Hertford, Staines, Leek a Huntingdon yn Lloegr.

Yn ôl y cwmni, mae’r siopau hyn wedi bod yn tanberfformio – ond mae cynlluniau ar waith i agor wyth siop newydd yn Lloegr gan greu 600 o swyddi yn ystod y flwyddyn hon.

Bu 3.4% o gynnydd yn nhwf gwerthiannau Waitrose rhwng Ionawr 2016 a Ionawr 2017, yn ôl ystadegau gafodd eu gyhoeddi ddydd Mawrth yr wythnos hon.

“Rydym bob tro yn ceisio osgoi cau canghennau, ond rydyn ni’n adolygu perfformiad ein siopau ac yn ymateb lle mae’n rhaid,” meddai Cyfarwyddwr Gwerthiant siopau Waitrose, Ben Stimson.

“Byddwn yn trafod gydag ein partneriaid yn y canghennau fydd yn cau ac mi fyddwn yn gwneud yn siŵr ei bod yn derbyn y cymorth sydd angen arnyn nhw.”