LlunL Horizon
Mae Horizon wedi cyhoeddi heddiw eu bod am gynnig deuddeg prentisiaeth i bobol ddatblygu sgiliau peirianyddol ar safle gorsaf bŵer niwclear Wylfa Newydd, Ynys Môn.

Dyma’r ail flwyddyn i’r cwmni gynnig cynllun o’r fath lle wnaeth deg o bobol ifanc lleol Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy fanteisio arnyn nhw’r llynedd gan ddechrau hyfforddi ym mis Medi.

Mae’r prentisiaethau yn gynlluniau tair blynedd ar y cyd â Grŵp Llandrillo Menai.

“Bwriad cynllun prentisiaeth Wylfa Newydd yw darparu’r gefnogaeth, yr hyfforddiant a’r mynediad sydd ei angen ar beirianwyr gorau Horizon i roi hwb i yrfa yn y sector ynni,” meddai Greg Evans, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynhyrchu Horizon.

‘Gweithlu medrus lleol’

Mae’r prentisiaethau yn cynnwys hyfforddiant yng ngweithdy Grŵp Llandrillo Menai ym Mangor cyn symud i Ganolfan Beirianneg Campws Coleg Menai Llangefni sy’n agor yn y flwyddyn academaidd 2018-2019, ac wedi cael buddsoddiad o £1 miliwn gan Horizon.

 

“Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch iawn o gael rôl mor bwysig i’w chwarae yn natblygiad y gweithlu medrus lleol,” meddai Dr Ian Rees, Cyfarwyddwr Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai ar Ddatblygu Busnes.

“Fel sefydliad, ein blaenoriaeth yw helpu’r bobol leol i gael yr addysg, y sgiliau a’r profiad a fydd yn eu galluogi i gael swyddi ar brosiectau fel Wylfa Newydd.”