Tafarn Sinc, Preseli
Mae perchennog tafarn enwog ym mynyddoedd y Preseli wedi penderfynu gwerthu’r busnes teuluol ar ôl chwarter canrif o wasanaeth.

Esboniodd Hafwen Davies wrth golwg360 fod Tafarn Sinc wedi bod ym meddiant y teulu ers 25 mlynedd pan brynodd ei rhieni hi, Brian a Brenda Llewelyn, yr adeilad oedd yn cael ei adnabod cyn hynny fel ‘Precelly Hotel’.

Cafodd y dafarn ei hadeiladu’n wreiddiol yn 1876 pan agorodd y rheilffordd o Glunderwen i Rosebush, sef y pentref ger Maenclochog lle mae modd dod o hyd i’r dafarn a’i waliau sinc enwog.

‘Cadw’r elfen Gymreig’

Dywedodd Hafwen Davies fod cynnal busnes yng nghefn gwlad yn medru bod yn heriol a bod cefnogaeth pobol leol ynghyd ag ymwelwyr yn bwysig i lwyddiant y dafarn.

Mae’r cwmni arwerthu, Sidney Phillips, yn hysbysebu’r dafarn ar eu gwefan am £295,000, ac mae Hafwen Davies yn gobeithio y bydd y perchnogion newydd yn cynnal elfen Gymreig y busnes.

“Wrth ddweud wrth y bobol leol yn y bar am ein cynlluniau ni, mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod i’n llefen ac yn teimlo’n eithaf trist,” meddai.

“Ond mae’n bryd inni symud ymlaen nawr, ac mae angen rhywun ifanc i’w gymryd e drosto a dod â bywyd newydd iddo.

“Dw i wir yn gobeithio y bydd rhywun Cymraeg yn ei brynu fe ac yn ei gadw fe fel tafarn Gymraeg,” ychwanegodd.

“Does dim byd tebyg iddo fe yn yr ardal i ddweud y gwir, ac mae’n bwysig cadw hynny i fynd.”