(llun: Ben Birchall/PA)
Mae miloedd o weithwyr dur yn wynebu pleidlais heddiw tros dderbyn neu wrthod y newidiadau i’w cynlluniau pensiwn fydd yn pennu dyfodol safleoedd Tata yn y Deyrnas Unedig.
Mae arweinwyr tri o’r undebau llafur yn argymell y dylent dderbyn y newidiadau fel y dewis gorau sydd ar gael.
Mae’r newidiadau’n cynnwys cyflwyno cynllun pensiwn cyfraniad diffiniedig gydag uchafswm cyfraniadau’r cyflogwyr o 10% ar sail cyfraniadau o 6% gan y gweithwyr.
Daw hyn yn sgil y bwriad i gau Cynllun Pensiwn Dur Prydain (BSPS) i groniadau’r dyfodol erbyn Mawrth 31.
Y bwriad gwreiddiol oedd cyflwyno cynllun ar sail cyfraniadau o 3% gan weithwyr a 3% gan gyflogwyr.
Mae safle dur mwyaf Tata yn y Deyrnas Unedig ym Mhort Talbot, sy’n cyflogi tua 4,000 o weithwyr.
‘Canlyniad gorau…’
Mae datganiad ar y cyd rhwng yr undebau’n dweud: “Dydyn ni ddim yn cyflwyno’r argymhelliad heb ystyried yn ddwys. Does neb yn dweud nad oes problemau’n ymwneud â’r cynnig hwn sydd ar y bwrdd.
“Ond fel yr ydym wedi’i ddweud o’r blaen, yr hyn rydych chi’n pleidleisio drosto yw’r canlyniad gorau y gellir ei gael drwy negydu.”
Fe wnaeth Tata etifeddu’r cynllun BSPS wrth brynu Corus yn 2007, a dyma un o gynlluniau pensiwn mwyaf Prydain, gyda thua 130,000 o aelodau.
Ar hyn o bryd, mae Tata yn ceisio am bartner ac mewn trafodaethau hir â’r cwmni o’r Almaen ThyssenKrupp.
Mae disgwyl i gyfnod pleidleisio’r gweithwyr ddod i ben ynghanol mis Chwefror.