HSBC Llun: PA
Mae banc HSBC wedi cyhoeddi y bydd yn cau 62 o ganghennau ar draws y Deyrnas Unedig yn 2017.

Mae naw o’r canghennau sy’n cau yng Nghymru gan olygu bod tua 180 o swyddi yn y fantol. Yn ne Cymru fe fydd pum cangen yn cau – yn Ffordd Churchill yng Nghaerdydd, Maesteg, Rhydaman, Abergwaun, ac Arberth.

Yn y gogledd bydd Caergybi, Treffynnon, Llanrwst a Threfyclo ym Mhowys hefyd yn cau.

Dywedodd y banc mai dyma fydd yr unig doriadau yn 2017 i’w rwydwaith o ganghennau, gan ddod a chyfanswm ei ganghennau yn y Deyrnas Unedig i 625.

Dywed y banc bod y penderfyniad i gau’r canghennau “yn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’n rhwydwaith wrth i ni barhau i fuddsoddi yn ein platfformau digidol a’n pobl.”