Safle Wylfa Newydd, Llun: Horizon
Mae cwmni ynni niwclear Horizon wedi cael caniatâd i brynu offer ar gyfer adweithydd newydd, Wylfa Newydd yn Ynys Môn.

Mae Pŵer Niwclear Horizon wedi derbyn tystysgrif trwyddedau sydd yn golygu bod modd iddynt fynd ati i archebu offer ar gyfer yr orsaf bŵer.

Hon yw’r ail dystysgrif yn unig i gael ei roi i gwmni yn y Deyrnas Unedig a bu cyfnod chwe mis o asesu cyn iddo gael ei roi i’r cwmni.

Bydd y drwydded yn ddilys am dair blynedd ac yn cael ei hail-ddilysu bob blwyddyn tan fod Horizon yn derbyn trwydded safle niwclear.

Cam yn agosach

“Mae hon yn garreg filltir bwysig i Horizon, gan ei bod yn nodi cam arall yn ein taith tuag at ddod yn ddaliwr trwydded safle niwclear, ac at y gwaith o adeiladu a gweithredu Wylfa Newydd,” dywedodd Pennaeth Adeiladu a Chaffael Peirianeg Horizon.

Yr offer cyntaf mae’r cwmni yn disgwyl derbyn yn 2017, yw rhan o brif sustem diffodd yr adweithydd.