Bu llai o wario ar nwyddau yng ngwledydd Prydain cyn y Nadolig.

Ac eto, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol bu 4.3% yn fwy o werthu’r flwyddyn ddiwethaf ar ei hyd.

Dywedodd yr asiantaeth ystadegau bod llai o wario cyn y Dolig mewn siopau dillad a nwyddau i’r cartref.

Bu twf mewn prynu ar-lein o 21.3% rhwng 2015 a 2016, ond bu cwymp o 5.3% cyn y Dolig.

2016 yn “dda ar y cyfan”

“Roedd diwedd 2016 yn gyfnod da i fanwerthwyr ar y cyfan gyda gwerthiannau i fyny 5.6% o gymharu â blwyddyn ddiwethaf, ond bu cwymp yn y nifer rhwng Tachwedd a Rhagfyr,” meddai Uwch Ystadegydd y Swyddfa Genedlaethol, Kate Davies.

Ni fu’r Nadolig yn llwm i bawb gyda siopau bychain – cigyddion yn benodol – yn gweld twf sylweddol dros yr ŵyl.