Un o drenau Aviva Cymru (llun Golwg 360)
Mae un o bwyllgorau dethol Tŷ’r Cyffredin wedi cyhoeddi adroddiad yn galw am fuddsoddi sylweddol yn system drenau Cymru.

Mae hynny’n cynnwys cyflwyno trenau newydd yn lle’r rhai presennol sydd, ar gyfartaledd, yn 27 oed.

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn annog Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i gymryd camau er mwyn gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd pan gaiff y cwmni nesa’ ei ddewis i gynnal y gwasanaeth yg Nghymru a’r Gororau yn 2018.

Llywodraeth Cymru yn dewis

Am y tro cynta’, Llywodraeth Cymru fydd yn dewis y cwmni – gyda’r pŵer yn cael ei ddatganoli eleni – a’r gobaith yw y bydd hyn yn arwain at newid.

Yn ôl yr adroddiad , mae straen wedi bod ar y gwasanaeth ers dechrau cyfnod y drwydded weithredu bresennol yn 2013 gyda chynnydd o 75% yn nifer y teithwyr.

Mae hefyd yn dweud bod y cerbydau presennol ymysg y hynaf yn y Deyrnas Unedig gyda threnau’r rhwydwaith yn 27  oed ar gyfartaledd, a’r cerbyd hyna’ yn 40.

Diffyg “buddsoddi digonol”

Roedd yr adroddiad hefyd yn beirniadu’r ffordd y cafodd y cwmni – Aviva – ei ddewis, heb feddwl digon beth oedd yr oblygiadau tymor hir.

“Roedd y penderfyniad i roi masnachfraint 2003 heb unrhyw ystyriaeth o gynnydd yn nefnydd y rheilffyrdd yn gamgymeriad aruthrol ac yn sgil hyn, doedd dim digon o fuddsoddi,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor yr Aelod Seneddol David TC Davies.

“Wrth dendro’r fasnachfraint newydd yn 2018, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am sicrhau gwelliannau … os bydd yn llwyddiannus, fe fydd teithwyr Cymru yn manteisio’n fawr.”

  • Mae yna bedwar cwmni’n cystadlu am y cytundeb yn 2018.