Mae BT wedi lansio gwasanaeth heddiw i fynd i’r afael â galwadau niwsans yng Nghymru.

Dyma’r gwasanaeth cyntaf o’i fath ym Mhrydain, ac mae’n dilyn ymchwil sy’n dangos bod pobol yng Nghymru yn derbyn tair galwad ffôn niwsans yr wythnos.

Bydd y gwasanaeth Diogelu Galwadau BT yn adnabod y rhifau ffôn sy’n dueddol o wneud galwadau niwsans, ac yn eu dargyfeirio cyn iddynt gyrraedd y cwsmeriaid.

Mae modd i ddefnyddwyr hefyd ddeialu 1572 ar ôl derbyn galwad niwsans er mwyn ei gofnodi, neu gysylltu drwy’r we.

Pryder am bobol hŷn

Mae’r ymchwil yn dangos mai iawndal damweiniau; PPI; sgamiau cyfrifiadurol; ceisiadau am ddata personol a galwadau mud yw’r achosion mwyaf cyffredin o alwadau niwsans.

Mae hefyd yn dangos bod dwy ran o dair o ferched ar draws y Deyrnas Unedig yn gweld y galwadau’n straen, gyda mwy na chwarter yn poeni am eu rhieni neu berthnasau hŷn sy’n derbyn galwadau o’r fath.

“Mae’r gwasanaeth hwn yn newyddion gwych i bobol yng Nghymru,” meddai Alwen Williams, cyfarwyddwr BT Cymru.

“Rydym yn cymryd y mater hwn o ddifri ac mae’r gwasanaeth pwysig hwn yn dangos ein bod yn benderfynol o wneud popeth gallwn ni i helpu cwsmeriaid oresgyn y broblem.”