Pont Hafren (Hawlfraint agored)
Mae arweinydd Cyngor Sir Fynwy wedi rhybuddio y gallai torri tollau pontydd Hafren roi pwysau ychwanegol ar dai ac isadeiledd yr ardal.

Yn ôl cynlluniau Llywodraeth Prydain, fe fydd prisiau’r tollau’n gostwng £3 erbyn y flwyddyn nesaf.

Mae prisiau tai wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf wrth i weithwyr o Fryste symud i fyw i ardaloedd lle mae prisiau tai yn is na de-orllewin Lloegr.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox wrth y BBC fod “cyfleoedd mawr” i bobol a busnesau Sir Fynwy fel “porth i dde Cymru”.

Ond mae’n rhybuddio y bydd “pwysau ar ofynion tai a’n hisadeiledd”.

Mae Cas-gwent, Cil-y-coed a Magwyr ymhlith yr ardaloedd mwyaf poblogaidd i fyw yn y sir, gydag 80% o bobol sy’n prynu tai yno’n dod o Fryste.

Mae Peter Fox wedi galw am “ateb yr her”.

Tai fforddadwy

Rhan o hynny, meddai, yw cynnig mwy o dai fforddadwy yn yr ardal i drigolion lleol fel eu bod yn aros, ac mae hynny’n “bryder”, meddai.

“Dw i’n gyffrous am y swyddi ychwanegol y gallen ni eu creu yma, o bosib.

“Ry’n ni am i’n plant gael y cyfle i aros yma, magu teulu a chael swydd sy’n talu’n dda yn hytrach na gadael y wlad i gyflawni eu huchelgais.”