Graff yn dangos y cysylltiad rhwng cyflogau isel a gweithio rhan-amser ymhith dynion (Sefydliad Astudiaethau Ariannol)
Mae cynnydd “dramatig” wedi bod yn nifer y dynion sy’n gweithio mewn swyddi rhan-amser ar gyflogau isel dros yr 20 mlynedd diwetha’, yn ôl arolwg newydd.

Mae’r adroddiad yn tanlinellu’r cysylltiad rhwng gwaith rhan amser a chyflogau isel ac yn dweud bod anghyfartaledd cyflog ymhlith dynion wedi codi.

Yn ôl yr arolwg mae cyflogau’r rhai mewn swyddi da wedi mynd yn uwch, tra bod y dynion ar gyflogau is yn gweithio llai o oriau.

Y manylion

Mae tuag un o bob pum gwryw rhwng 25 a 55 oed ar gyflogau isel yn gweithio rhan amser erbyn hyn, yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Ariannol, sydd wedi mesur y tâl bob awr.

Dim ond un o bob 20 o ddynion ar gyflogau uchel oedd yn gweithio’n rhan amser, medden nhw.

Ar y llaw arall, dangosodd yr arolwg bod anghyfartaledd cyflog ymysg merched wedi syrthio gan fod llai yn gweithio rhan-amser erbyn hyn.