Mae grŵp bancio wedi ymddiheuro am nam ar eu gwasanaeth bancio ar-lein sydd wedi para am ddeuddydd.

Fe dorrodd gwasanaeth Grŵp Bancio Lloyds i lawr ddydd Mercher, gyda chwsmeriaid yn cwyno nad oedd modd defnyddio’r gwasanaeth bancio ar-lein na’r ap.

Yn ôl Lloyds, maen nhw o hyd yn ceisio dod o hyd i achos unrhyw nam cyn gynted â phosib, gan ei fod hefyd yn effeithio ar wasanaethau banciau eraill y grŵp, yr Halifax a’r Bank of Scotland.

“Rydym yn gweithio’n galed i adfer gwasanaeth llawn i’n cwsmeriaid ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra,” meddai llefarydd ar ran Grŵp Bancio Lloyds.