Mae pris petrol ar ei uchaf yng ngwledydd Prydain ers dros dwy flynedd.

Fe gyrhaeddodd ei gyfartaledd o £1.18 y litr ddydd Llun yr wythnos hon – y pris uchaf ers Rhagfyr 2014.

Mae’r ystadegau gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol hefyd yn dangos bod prisiau petrol wedi codi mwy nag 4 ceiniog y litr o fewn y pump wythnos diwetha’.

Mae’r ystadegau yn effeithio gyrwyr ceir diesel hefyd, gyda litr yn costio £1.21 ar gyfartaledd.

Yn ôl mudiad FairFuelUK, mae’r ffigwr cyfartalog yn gamarweiniol, gan fe all gyrwyr gwledig yn talu “hyd at 12 ceiniog y litr yn fwy”.