Dywed Tesco y bydd 1,000 o bobl yn colli eu gwaith fel rhan o gynlluniau’r archfarchnad i ad-drefnu ei rwydwaith dosbarthu.

Mae disgwyl i’r cwmni ostwng nifer y canolfannau dosbarthu o 25 i 23, gan gau ei safleoedd yn Welham Green a Chesterfield.

Serch hynny, mae disgwyl i’r cwmni greu 500 o swyddi newydd fel rhan o’r ad-drefnu.

Fe fydd y newidiadau yn dod i rym ym mis Mehefin.