Neuadd y Farchnad Caergybi (Llun: Cyngor Môn)
Mae Cyngor Môn wedi cyhoeddi bod y gwaith o adnewyddu Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi ar fin dechrau.

Fe fu’r adeilad cofrestredig, a gafodd ei godi yn 1855, yn anniogel ers degawd ac fe gafodd ei brynu drwy orchymyn gorfodol gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r gwaith yn bosib ar ôl sicrhau £2.4 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac fe fydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn cynnwys cyfleusterau newydd, gan gynnwys llyfrgell.