Tren Arriva yn Abertawe (Llun Golwg360)
Fe fydd teithwyr trên yng Nghymru’n talu rhagor am eu tocynnau o heddiw ymlaen, ond mae’r cynnydd yn llai nag yn y rhan fwya’ o wledydd Prydain.

Dim ond 1.9% fydd y cynnydd mwya’ ar drenau Arriva yng Nghymru ond ar draws y Deyrnas Unedig, mae’r cynnydd pris ar gyfartaledd yn 2.3% – cynnydd uwch nag yn y ddwy flynedd ddiwetha’.

Mae hynny wedi cael ei gondemnio gan fudiadau sy’n cynrychioli teithwyr trên a gan y Blaid Lafur, sy’n galw am roi gwasanaethau trên mewn dwylo cyhoeddus.

Dadl Llywodraeth Prydain yw fod angen y codiadau er mwyn talu am fuddsoddiadau mawr yn y diwydiant.

Y dadlau

Mae teithwyr bob-dydd rhwng Birmingham a Llundain yn talu £2,000 y flwyddyn yn fwy nag yr oedden nhw pan ddaeth y Ceidwadwyr i rym yn 2010, yn ôl llefarydd trafnidiaeth y Blaid Lafur yn San Steffan, Andy McDonald.

Yn ôl ymchwil y blaid, roedd ambell wasanaeth arall wedi codi o fwy na 43% a theithwyr rhwng Brighton a Llundain ar wasanaethau trwblus Southern Rail wedi codi bron £1,000 yn y saith mlynedd diwetha’.

Ateb yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling, oedd fod angen talu am y “moderneiddio mwya’ yn y diwydiant” ers mwy na chanrif.

Roedd y Llywodraeth, meddai, yn ofalus i rannu’r costau’n deg rhwng teithwyr a threthdalwyr.