Mae cwmni Camelot sy’n trefnu’r Loteri Genedlaethol wedi cael dirwy o £3 miliwn ar ôl talu jacpot gwerth £2.5 miliwn i ddyn oedd wedi’i gael yn euog o dreisio ac sy’n cael ei amau o gyflwyno tocyn ffug er mwyn hawlio’r arian.

Y Comisiwn Gamblo sydd wedi rhoi’r ddirwy ar ôl iddi gymryd hyd at chwe blynedd i ddarganfod y twyll.

Cafodd dyn 50 oed, Edward Putman ei arestio gan Heddlu Swydd Hertford fis Hydref y llynedd ar amheuaeth o dwyll ond fe gafodd ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad.

Roedd wedi ei garcharu yn 1993 am dreisio, ac unwaith eto yn 2012 am hawlio budd-daliadau’n anghyfreithlon.

Bydd yr arian o’r ddirwy yn mynd at achosion da, ac mae Camelot wedi ymddiheuro.