Bydd Aberteifi yn newid ei henw i Siwmper i gefnogi ymgyrch Nadolig Achub y Plant
Mae tref yng Ngheredigion wedi newid ei henw i ‘Siwmper’ er mwyn cefnogi ymgyrch Nadolig blynyddol elusen Achub y Plant.

Bydd tref Aberteifi ynghyd ag ysgolion a busnesau yn mabwysiadu ‘Siwmper’ fel yr enw swyddogol tan Ddiwrnod Nadolig pan fydd y dref yn dychwelyd i’w henw gwreiddiol.

Yn ogystal â newid enw’r dref bydd pobl (ac anifeiliaid) lleol yn gwisgo siwmperi Nadoligaidd gan gynnwys plismyn, y tîm nofio a defaid a chŵn.

Pwrpas newid enw’r dref yw dathlu Diwrnod Siwmperi Nadolig ar 16 Rhagfyr a trwy hyn, i gyfrannu at elusen Achub y Plant sydd yn helpu plant llai ffodus.

Amser ail-enwi

“Aberteifi yw’r enw sydd wedi bod ar y dref ers cannoedd o flynyddoedd, ond roeddem yn teimlo bod yr amser wedi dod i ail-enwi’r dref er mwyn achos mor bwysig,” meddai Maer y Dref, Clive Davies.

“Yn ogystal â chodi arian ar gyfer achos da mae hyn wedi rhoi Aberteifi ar y map go iawn – rydyn ni’n gwneud rhywbeth sy’n hwyl ac yn ddwl ar gyfer Achub y Plant.”