Mae cwmni BT wedi cyhoeddi y bydd yn creu 500 o swyddi gwasanaeth cwsmeriaid newydd ar draws y Deyrnas Unedig.

Fe fydd y swyddi newydd yn bennaf yn eu canolfannau cyswllt yn Abertawe, Warrington, Doncaster ac Accrington.

Mae’r swyddi’n ychwanegol i’r targed a gyhoeddwyd yn flaenorol i greu 1,000 o swyddi ar draws y DU ac Iwerddon erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Libby Barr, rheolwr gyfarwyddwr gofal cwsmeriaid gyda chwmni BT: “Rydym yn falch iawn i fod yn creu’r swyddi newydd yn y DU ac Iwerddon. Mae BT yn newid y ffordd rydym yn gwasanaethu ein cwsmeriaid er mwyn hybu lefelau gwasanaeth.

“Rydym am ateb 90% o alwadau ein cwsmeriaid yn y DU ac Iwerddon erbyn diwedd mis Mawrth.”