Mae’r cynnydd mewn prisiau tai wedi cyflymu am y tro cyntaf ers wyth mis, yn ôl mynegai cymdeithas adeiladu’r Halifax.

Roedd cynnydd blynyddol o 6% hyd at fis Tachwedd – y tro cyntaf i’r fath dwf ddigwydd wrth gymharu blwyddyn i flwyddyn ers mis Mawrth.

Roedd cynnydd mis-wrth-fis o 0.2% mewn prisiau tai hefyd – roedd cynnydd o 1.5% ym mis Hydref.

Ar hyn o bryd, pris cyfartaledd tai yng ngwledydd Prydain oedd £218,002 erbyn mis diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Halifax fod llai o alw am dai ar hyn o bryd oherwydd ffactorau economaidd sy’n cynnwys prisiau tai yn codi’n gynt na chyflogau, cyfraddau morgeisi isel a phrinder tai.