Mae banc Natwest wedi cael ei feirniadu ar ôl cyhoeddi y bydd yn cau naw o’i ganghennau yn y gogledd.

Dywedodd Liz-Saville Roberts, Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, ei bod yn siomedig â’r penderfyniad.

Fe fydd naw cangen yn cau, ym Mhrestatyn, Rhuthun, Conwy, Treffynnon, Porthmadog, Caernarfon, Porthaethwy, Amlwch a Chaergybi.

Guto Bebb yn feirniadol hefyd

Mae’r Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig, Guto Bebb, hefyd wedi condemnio’r penderfyniad i gau’r banc yng Nghonwy.

Fe ddywedodd y bydd yn cael cyfarfod ddydd Gwener gyda chynrychiolwyr o gwmni RBS – perchnogion NatWest – er mwyn trafod y penderfyniad sy’n dod yn fuan wedi i’r banc ola’ yng Nghyffordd Llandudno gael ei gau.

Mae Natwest yn dweud bod cynnydd mewn bancio ar-lein yn golygu bod llai o bobol yn mynd i’w canghennau lleol.

“Wedi laru”

Ond mae Liz-Saville Roberts yn dweud ei bod “wedi laru” ar glywed hyn ac mewn cyfarfod diweddar â’r banc, doedd “dim sôn” am y bwriad i gau’r gangen ym Mhorthmadog.

“Tra fy mod yn hynod siomedig â bwriad NatWest i gau eu cangen ym Mhorthmadog, mae tueddiad clir yn dod i’r amlwg gyda changhennau eraill wedi cau yn ddiweddar ym Mlaenau Ffestiniog, Bermo a Thywyn,” meddai.

“Rwyf wedi laru clywed fod gan gwsmeriaid y dewis o ddefnyddio gwasanaethau bancio ar-lein gan fod hyn yn diystyru darpariaeth band-eang annibynadwy mewn rhannau o Gymru megis ardaloedd yn Nwyfor Meirionnydd.”

“Os yw NatWest yn benderfynol o ddilyn y trywydd yma o gau canghennau yna mae’n ddyletswydd arnynt i ddilyn y canllawiau a osodwyd gan y Gymdeithas Bancio Brydeinig sy’n galw ar fanciau i sicrhau fod mesurau mewn lle i liniaru effaith cau canghennau ar gymunedau.”

Ymgyrchu

Mae hithau a’r Aelod Cynulliad dros Ganol a Gorllewin Cymru, Simon Thomas, yn dweud y byddan nhw’n ymgyrchu yn erbyn cau gwasanaethau lleol.

“Mae’n rhaid i’r llywodraeth yn San Steffan weithredu i sicrhau bod gan bawb fynediad i fancio. Er eu bod yn gwmnïau preifat sy’n gwneud penderfyniadau masnachol, mae mynediad i fancio yn hanfodol mewn bywyd modern a chymryd rhan mewn democratiaeth,” meddai Simon Thomas.

“Mae gan Lywodraeth Cymru rôl i hyrwyddo dewisiadau amgen i fanciau fel undebau credyd. Yn anffodus, rydym wedi gweld toriad yn yr arian ar gael i gefnogi undebau credyd gan Lywodaeth Cymru dros y blynyddoedd nesa’.”