Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Adam Price, wedi annog siopwyr i ddewis y stryd fawr yn hytrach na chanolfannau siopa neu siopa arlein cyn y Nadolig.

Fe ddaw ei sylw wrth i ystadegau ddangos mai yng Nghymru y mae’r gyfradd ucha’ o siopau gwag ar y stryd fawr trwy holl wledydd Prydain. Mae’r ffigyrau’n dangos fod y stryd fawr yn dal i ddiodde’ oherwydd datblygiadau ar gyrion trefi.

Mae Sadwrn Busnesau Bach, ar Ragfyr 3, yn rhoi cyfle i ni dynnhu sylw at y modd mae siopa lleol yn helpu economi Cymru.

Y ffigyrau

“Dengys y ffigyrau diweddaraf fod cyfraddau siopau gwag yn uwch o lawer yng Nghymru nac yn Lloegr a’r Alban, gyda 15.1% o eiddo manwerthu yng nghanol trefi Cymru yn wag, o gymharu ag 11.3% yn Lloegr, a 12.1% yn yr Alban,” meddai Adam Price.

“Mae hyn yn achosi cryn bryder, yn enwedig o ystyried mai cyfradd y siopau gwag mewn canolfannau siopa yw’r isaf yng nghenhedloedd Prydain. Mae hyn yn golygu, tra bod siopau ar ein strydoedd yn wag, mae cwmnïau mawr ar gyrion trefi yn ffynnu.

“Mae problem benodol mewn trefi yng nghymoedd y de. Tra bod buddosddiadau yng Nghaerdydd wedi arwain at welliannau, mae hyn yn niweidiol i strydodd trefi llai yn y cyffiniau.”

– Mae Caerdydd wedi gweld cynnydd yn nifer y bobol ddaeth i ganol y ddinas, sef 80% rhwng 2008 a 2015;

– Ond fe welodd Bargoed, Blaenau a Chaerffili y gostyngiadau mwyaf yn nifer yr ymwelwyr yn yr un cyfnod, o 49%, 36% a 31%.

– Ym Môn, fe fu gostyngiad o 20% yng nghyfartaledd yr ymwelwyr â thref Caergybi rhwng 2011 a 2015.

Helpu busnesau bach

“Fel gwrthblaid,” meddai Adam Price, “r’yn ni am weithio’n galed i helpu busnesau bach trwy gael cyllid ar gyfer atebion arloesol.

“Yr ydym hefyd yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i ryddhau mwy o fusnesau o orfod talu trethi bunes uwch.

“Fe fydd yr ail-brisio ardrethi busnes yn 2017 yn cael effaith andwyol ar rai busnesau bach yng Nghymru, sydd yn annheg wrth ystyried yr amodau anffafriol sydd eisoes yn eu hwynebu.”