Wynne Jones, Dirprwy Arweinydd (Lluniau Cyngor Sir Powys)
Mae arweinwyr Cyngor Powys wedi amddiffyn eu bwriad i brynu un o adeiladau mwya’r Drenewydd – er gwaetha’r wasgfa ar arian y cyngor o ddydd i ddydd.

Fe ddatgelodd y cyngor eu bod wedi dechrau trafod prynu’r adeilad ers mis Mawrth ond dydyn nhw ddim wedi datgelu eto beth fyddai’r pris.

Ar hyn o  bryd, mae rhan o adeilad sylweddol Tŷ Ladywell yng nghanol y Drenewydd yn cael ei lesio gan Lywodraeth Cymru ond mae’r cyfan ar werth.

‘Creu cyfle’

Yn ôl y Cyngor, fe fyddai’n creu lle canolog ar gyfer gwasanaethau, yn rhoi cyfle iddyn nhw greu incwm masnachol ac yn caniatáu iddyn nhw gael gwared ar adeiladau eraill.

Roedd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Wynne Jones, yn cydnabod ei fod yn syniad dadleuol wrth bwysleisio na fyddai’r arian yn dod o gyllidebau arferol y cyngor.

“Buddsoddiad cyfalaf ydi hwn sy’n cynnig cyfle ardderchog i’r cyngor a dim ond effaith bositif iawn y byddai’n ei gael ar gyllideb gyfredol wan y cyngor.”

Am flynyddoedd, roedd yr adeilad yn gartref i Gyngor Datblygu Cymru Wledig.