(Llun: Rui Vieira/PA)
Mae prisiau tai Cymru wedi codi o 4.4% ers mis Medi’r llynedd.

Mae’n golygu bod pris cyfartalog tŷ bellach yn £146,388, yn ôl arolwg ar y cyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a chyrff llywodraethol eraill.

Blaenau Gwent sy’n parhau i gael ei hystyried fel yr ardal rataf i brynu tŷ yng ngwledydd Prydain, gyda thŷ “arferol” yn y dref yn costio £76,000.

Ar ben arall y rhestr, roedd tŷ yn ardal Kensington o Chelsea yn costio £1.4 miliwn.